Roedd Dewi Sant yn fynach a oedd yn byw yn y chweched ganrif. Cafodd e ei eni yng Nghymru ac aeth e ymlaen i fod yn archesgob Cymru. Heddiw mae e’n cael ei gofio fel nawddsant Cymru a chysegrwyd dros drigain o eglwysi i Dewi dros y wlad.
Yn ôl y chwedl, cafodd Dewi ei eni yn ystod storm ffyrnig ar ben clogwyn yn Sir Penfro. Mae ei fam, Non, yn cael ei chofio fel sant hefyd. Mae Llanon ger Aberystwyth a Llannon yn sir Caerfyrddin yn cael eu henwi ar ei hôl hi.
Roedd Dewi yn bregethwr enwog a sefydlodd nifer o eglwysi a chymunedau Cristnogol. Roedd e a’i fynachod yn dilyn rheol syml iawn a doedden nhw ddim yn yfed cwrw neu fwyta cig o gwbl.
Bu farw Dewi ar 1af Mawrth, Dydd Gŵyl Dewi Sant, a chladdwyd ar safle’r Eglwys Gadeiriol yn y ddinas yn Sir Penfro.
Saint David – Patron Saint of Wales
Saint David was a monk who lived in the sixth century. He was born in Wales and went on to become the Archbishop of Wales. Today he is remembered as Wales’ patron saint and over sixty churches are dedicated to him across the country.
According to the legend, David was born during a fierce storm on the top of a cliff in Pembrokeshire. His mother, Non, is also remembered as a saint. Llanon near Aberystwyth and Llannon in Carmarthenshire are named after her.
David was a famous preacher and he founded a number of churches and Christian communities. He and his monks followed a simple rule and they didn’t drink beer or eat meat at all.
David died on the 1st March, Saint David’s Day, and he is buried on the site of the Cathedral in the city in Pembrokeshire.