Mae Nos Galan yn ddathliad pwysig yng Nghymru gyda nifer o draddodiadau sy’n gysylltiedig â’r tymor wedi goroesi ar hyd y canrifoedd. Darllenwch am rhai ohonyn nhw yma.

New Year is an important celebration in Wales with a number of strange traditions associated with the season that have survived through the centuries. Read about some of them here.

Calennig

Mewn rhai ardaloedd, mae plant dal i godi’n gynnar ar Ddydd Calan i hela am galennig. Mae calennig yn rhodd o arian neu felysion ar ôl i’r plant yn canu cân neu rigwm bach. Bydd plant yn mynd â ‘pherllan’ sy’n cael ei gwneud o afal, gyda thair ffon ar y gwaelod ac addurniadau o focs, clofau a phethau eraill. Mae llawer o rigymau a chaneuon wedi’u recordio, ond dyma ddau syml i’w dysgu.

In some areas, children still get up early on New Year’s Day to ask for calennig. Calennig is a gift of money or sweets given in return for a song or a little rhyme. Children will often bring a ‘perllan’ which is made from an apple with three sticks at the bottom and decorated with sprigs of box, cloves and other things. There are many different rhymes and songs recorded but here are two simple ones to learn.

Blwyddyn Newydd Dda i chi
Ac i bawb sydd yn y tŷ
Dyna yw’n dymuniad ni
Blwyddyn Newydd Dda i chi!

Rhowch galennig yn galonnog
I blant bach sydd heb un geiniog. 

Happy New Year to you
And to everyone in the house
That is our wish
Happy New Year to you!

Give a hearty gift
To little children without a penny.

Y Fari Lwyd – The Grey Mare

Mae’r Fari Lwyd yn hen draddodiad rhyfedd iawn a oedd yn boblogaidd yn Ne Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Mari Lwyd yn golygu ‘Grey Mare’ yn Saesneg ac mae’r Fari, wedi’i gwneud o benglog ceffyl ar ben ffon gyda chynfas gwyn i greu’r corff, yn cael ei addurno gyda rhubanau a chlychau. Mae’r Fari yn cael ei arwain gan y ‘hwsmon’ gyda chriw o bobl sy’n mynd o dŷ i dŷ i greu direidi a chanu caneuon. Mae un gân fel sgwrs rhwng y ddau grŵp – y bobl yn y tŷ a chriw y Fari – ac yn parhau tan mae’r Fari yn cael mynd i mewn i rannu bwyd a diod.

The Mari Lwyd is an old and very strange tradition which was popular in South Wales in the nineteen century. Mari Lwyd means ‘Grey Mare’ and the Mari, made from a horse’s skull atop a pole, with a white sheet to form the body, is decorated with ribbons and bells. She is led by the ‘hwsmon’ with a band of people from house to house where the group cause mischief and sing songs. One song is like a conversation between the two groups – the people in the house and the Mari’s crew – and continues until the Mari has permission to enter and share food and drink.

Gwelir y Fari hyd heddiw ar Nos Galan, ond weithiau mae digwyddiadau nes ymlaen ym Mis Ionawr sy’n cyd-daro a’r dyddiadau yn yr hen galendr Gregoraidd. Dyddiau ‘ma, yn lle mynd o dŷ i dŷ, bydd y Fari’n mynd i bartis a thafarnau.

The Mari can still be seen today on New Years Eve, but sometimes there are events later in January which coincide with the dates in the old Gregorian calendar. These days, instead of going house to house, the Mari will usually visit pubs or parties.

Canu Carolau – Singing Carols

Mae’r carol ‘Deck the Halls’ yn boblogaidd amser Nadolig, ond mae’r alaw yn un hen iawn o Gymru’n wreiddiol, gyda geiriau am y flwyddyn newydd. Dyma’r geiriau yn Gymraeg gyda chyfieithiad.

The carol ‘Deck the Halls’ is popular at Christmas time, but the melody is a very old one originally from Wales, with words about the new year. Here are the words in Welsh with a translation.

Oer yw’r gŵr sy’n methu caru,
Fa la la la la, la la la la.
Hen fynyddoedd annwyl Cymru,
Fa la la la la, la la la la.
Iddo ef a’u câr gynhesaf,
Fa la la la la, la la la la.
Gwyliau llawen flwyddyn nesaf,
Fa la la la la, la la la la.

I’r helbulus oer yw’r biliau
Fa la la la la, la la la la.
Sydd yn dyfod yn y Gwyliau,
Fa la la la la, la la la la.
Gwrando bregeth mewn un pennill,
Fa la la la la, la la la la.
Byth na waria fwy na’th ennill
Fa la la la la, la la la la.

Oer yw’r eira ar Eryri,
Fa la la la la, la la la la.
Er fod gwrthban gwlanen arni,
Fa la la la la, la la la la.
Oer yw’r bobol na ofalan’,
Fa la la la la, la la la la.
Gwrdd â’i gilydd ar Nos Galan,
Fa la la la la, la la la la.

Cold is the man who cannot love
Fa la la la la, la la la la.
The old mountains of dear Wales,
Fa la la la la, la la la la.
For him and his warmest friend,
Fa la la la la, la la la la.
A joyful holiday next year.
Fa la la la la, la la la la.

To the troubled cold are the bills
Fa la la la la, la la la la.
That cometh during the Holidays,
Fa la la la la, la la la la.
Listen to the sermon in one verse:
Fa la la la la, la la la la.
Never spend more than you earn,
Fa la la la la, la la la la.

Cold is the snow on Eryri,
Fa la la la la, la la la la.
Although there’s a flannel blanket on it,
Fa la la la la, la la la la.
Cold are the people who do not care
Fa la la la la, la la la la.
To meet each other on New Year’s Eve,
Fa la la la la, la la la la.


Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd!

User Avatar
S'mae pawb! Elin dw i a dw i'n gweithio fel tiwtor Cymraeg ar-lein a gyda Cylch Dysgwyr Cymraeg. Wnes i greu Tyfu Cymraeg i helpu dysgwyr a thiwtoriaid. Croeso!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *