Shwmae, pawb!
Gobeithio bod popeth yn iawn a bod chi ‘di defnyddio’ch Cymraeg tipyn bach dros y penwythnos. Dw i wedi bod yn defnyddio fy hen deipiadur i ysgrifennu llythyrau at ffrindiau dros y byd. Pam? Wel, dw i’n treulio lot o amser ar fy nghyfrifiadur a weithiau dw i isio defnyddio rhywbeth heb sgrïn i greu pethau sy’n bersonol neu’n fwy creadigol. Pryd oedd y tro diwetha gaethoch chi lythyr teipiedig trwy’r post?
Mae’r gair teipiadur yn un diddorol. Mae’r ôl-ddodiad -iadur yn cael ei ddefnyddio weithiau i ddisgrifio peiriannau neu bethau sy’n helpu ni wneud rhyw fath o dasg.
Gweler:
cyfrifiadur computer
teipiadur typewriter
newyddiadur papur newydd
gwniadur thimble
cofiadur recorder (judge)
Cewch i rannu mwy o eiriau -iadur gyda ni ar y fforwm! A pha hen dechnoleg dych chi’n hoffi defnyddio? Hoffwn i glywed oddi wrthoch chi.
Geirfa
peiriannau – machines
ôl-ddodiad – suffix
If you’re enjoying Tyfu Cymraeg, please consider buying me a coffee!
Roedd yr awdur, y diwddar Colin Ward yn sgwennu pob un o’i lyfrau ac erthyglau ar hen deipiadur.
‘Peiriant cynganeddu’ (Ifor ap Glyn)