Shwmae ffrindiau!
Sut mae pethau heddiw? Dych wedi bod yn yr ardd heddiw? Dw i newydd wedi dechrau tacluso’r ardd a dod i nabod beth sy’n tyfu ynddi. Symudon ni yma y llynedd ond mae’r tywydd wedi bod mor wael dyn ni ddim wedi gwneud unrhywbeth tan nawr.
Dros y ffordd, mae nant fach yn rhedeg lawr y bryn, trwy’r dre ac wedyn i mewn i Afon Derwent. Dw i’n hoffi sefyll ar y bont sy’n croesi ‘Nant y Goedlan’ ac yn gwrando ar yr adar a’r dŵr. Oes afon neu nant lle dych chi’n byw? Beth am eich gardd chi? Beth sy’n tyfu ar hyn o bryd?
Rhannwch yn y fforwm!
Geirfa
yr ardd – the garden
tacluso – to tidy
beth sy’n tyfu ynddi – what’s growing in it
y llynedd – last year
Nant y Goedlan – Coppice Brook
Enwau lleoedd ‘pont’
Pontardawe – ‘bridge over the river Tawe’
Pontarddulais – ‘bridge over the river Dulais’
Pont Henry – ‘Henry’s Bridge’
Pontllan-fraith – ‘bridge by the speckled pool’ (llan here is a form of ‘llyn’ meaning lake)
Pontypridd – ‘bridge of the earthen house’
Pont-y-pŵl – ‘bridge of the pool’
Do you know any others? Share in the forum!