S’mae ffrindiau!

Sut mae’r Gymraeg yn mynd ar hyn o bryd? Angen rhywbeth newydd? Os ti’n chwilio am help wrth wrando a deall, mae’r radio yn rhywbeth i drio.

Dw i wedi bod yn gwrando ar y podlediad ‘Pigion’ ar y BBC Sounds app heddiw sy’n bodlediad arbennig i ddysgwyr Cymraeg. Mae geirfa ar y sgrin ac mae’r cyfweliadau yn rhoi cyfle i ti glywed Cymraeg ‘go iawn’ yn cael ei siarad gan bobl iaith gyntaf a phobl sy wedi dysgu.

“Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella’ch iaith.”

Cliciwch ar y llun i fynd i’r safle we a darganfod yr holl gyfres. Click on the picture to go to the Pigion website and listen to a podcast for learners.

 

 

Hwyl am y tro!

 

User Avatar
S'mae pawb! Elin dw i a dw i'n gweithio fel tiwtor Cymraeg ar-lein a gyda Cylch Dysgwyr Cymraeg. Wnes i greu Tyfu Cymraeg i helpu dysgwyr a thiwtoriaid. Croeso!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *