S’mae ffrindiau!

Dych chi’n hoffi pobi? Dych chi’n gwybod sut i ddilyn rysait yn Gymraeg? Do you like baking? Do you know how to follow a recipe in Welsh?

Follow this tasty recipe for cacennau cri or pice ar y maen and learn how to use the imperative or command yn Gymraeg.

When we want to tell someone to do something we use the ending -wch on a verb. For example, eisteddwch means sit. We often see these patterns when following a recipe in Welsh when using commands like mix or stir. Words which come directly after an -wch ending may have a soft mutation, so watch out for these!  Have a go at the recipe for Welsh cakes which uses lots of these words.

Cynhwysion Ingredients

225g o flawd codi
100g o fenyn
75g o siwgr mân
75g o gyrens
1 wy wedi’i guro
pinsiad o sbeis cymysg
pinsiad o halen

Dull Method

  1. Mewn powlen, cymysgwch y menyn i mewn i’r blawd a’r halen nes bod y gymysgedd fel briwsion bara.
  2. Ychwanegwch y cyrens a’r siwgr a’u troi’n dda.
  3. Cyfunwch y rhain gydag wy wedi’i guro, ac ychydig o laeth os oes angen, nes bod gennych chi does eitha cadarn.
  4. Rholiwch y toes nes bod hi’n hanner moddfedd o drwch.
  5. Torrwch y toes i gylchoedd.
  6. Cynheswch radell neu badell ffrio a’i hiro gydag ychydig o fenyn.
  7. Coginiwch y cacennau am oddeutu 3-4 munud bob ochr nes bod nhw’n frown euraid
  8. Gorffennwch gyda siwgr mân

Geirfa Vocabulary

cymysgwch  mix
ychwanegwch add
cyfunwch combine
rholiwch roll
torrwch
cut
cynheswch warm
coginiwch cook
gorffennwch finish

wedi’i guro beaten 
siwgr mân caster sugar
blawd codi self-raising flour
nes until
briwsion bara breadcrumbs
toes dough
trwch thickness
gradell griddle
padell ffrio frying pan

If you want to download this recipe or share it with a ffrind, click on the button below. When you’ve made your Welsh cakes, send me a photo on Twitter @TCymraeg or Instagram @TyfuCymraeg!

Hwyl am y tro!

User Avatar
S'mae pawb! Elin dw i a dw i'n gweithio fel tiwtor Cymraeg ar-lein a gyda Cylch Dysgwyr Cymraeg. Wnes i greu Tyfu Cymraeg i helpu dysgwyr a thiwtoriaid. Croeso!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *