Shwmae, pawb!

Gobeithio bod popeth yn iawn a bod chi ‘di defnyddio’ch Cymraeg tipyn bach dros y penwythnos. Dw i wedi bod yn defnyddio fy hen deipiadur i ysgrifennu llythyrau at ffrindiau dros y byd. Pam? Wel, dw i’n treulio lot o amser ar fy nghyfrifiadur a weithiau dw i isio defnyddio rhywbeth heb sgrïn i greu pethau sy’n bersonol neu’n fwy creadigol. Pryd oedd y tro diwetha gaethoch chi lythyr teipiedig trwy’r post?

Mae’r gair teipiadur yn un diddorol. Mae’r ôl-ddodiad -iadur yn cael ei ddefnyddio weithiau i ddisgrifio peiriannau neu bethau sy’n helpu ni wneud rhyw fath o dasg.

Gweler:

cyfrifiadur computer
teipiadur typewriter
newyddiadur papur newydd
gwniadur  thimble
cofiadur
recorder (judge)

Cewch i rannu mwy o eiriau -iadur gyda ni ar y fforwm!  A pha hen dechnoleg dych chi’n hoffi defnyddio? Hoffwn i glywed oddi wrthoch chi.

Geirfa

peiriannau – machines
ôl-ddodiad – suffix

If you’re enjoying Tyfu Cymraeg, please consider buying me a coffee!

User Avatar
S'mae pawb! Elin dw i a dw i'n gweithio fel tiwtor Cymraeg ar-lein a gyda Cylch Dysgwyr Cymraeg. Wnes i greu Tyfu Cymraeg i helpu dysgwyr a thiwtoriaid. Croeso!

2 Thoughts on “Teipiadur”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *